Fframwaith Asesu SIY – Cynradd

Mae'r adnodd hwn yn cynnwys dolenni adnoddau'r Sefydliad sydd wedi ennill sawl gwobr, sef y Fframwaith Asesu Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) i Ysgolion, Strategaethau Cymorth a Thraciwr Asesu SIY digidol i'w defnyddio mewn lleoliadau cynradd

Download resources

  • Fframwaith Asesu SIY – Disgrifyddion Cynradd

  • Strategaethau Ystafell Ddosbarth – Cynradd

  • Traciwr Asesu SIY 2.0 – Cynradd (cliciwch ‘Galluogi Golygu/Enable Editing’ ar ôl lawrlwytho)

  • Fframwaith Asesu SIY - Lawrlwythwch y Canllaw i Ddefnyddwyr

Back to all resources

Ar y dudalen hon cewch ddolenni i adnoddau The Bell Foundation sydd wedi ennill sawl gwobr, sef Fframwaith Asesu SIY i Ysgolion, Strategaethau Cymorth a Thraciwr Asesu SIY digidol i’w defnyddio mewn lleoliadau cynradd. Hefyd ar y dudalen hon mae fideos sy’n rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio’r adnoddau hyn.

Ar ôl i chi lawrlwytho’r Traciwr, cliciwch ‘Galluogi Golygu/Enable Editing’ er mwyn gallu ei ddefnyddio’n llawn.

Sut i ddefnyddio’r Traciwr a’r Fframwaith Asesu

Dilynwch y dolenni isod ac ar yr ochr dde i’r ddogfen canllawiau, y fideos a’r weminar er mwyn dysgu sut i ddefnyddio a chymhwyso’r Traciwr a’r Fframwaith Asesu hylaw hyn yn eich lleoliad.

Mae’r Strategaethau a’r Traciwr yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cyfieithu a’u cyhoeddi unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau. 

Fideo rhagarweiniol yw’r fideo cyntaf yn y rhestr chwarae sy’n dangos yn fyr ac yn gryno sut mae Traciwr Asesu SIY digidol yn gweithio. Mae fideos ychwanegol ar gael sy’n rhoi rhagor o fanylion am rannau unigol o’r adnodd, ond does dim angen eu gwylio i gyd, neu eu gwylio yn eu trefn, maen nhw yno i gynnig cymorth os oes ei angen arnoch chi.

Fideos: Sut i weithio gyda’r Fframwaith Asesu Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) i Ysgolion

Gwyliwch y weminar

Os oes gennych unrhyw sylwadau, cwestiynau neu adborth am Fersiwn 2.0 y Fframwaith Asesu SIY neu’r Traciwr Asesu SIY newydd, anfonwch ebost i: info@bell-foundation.org.uk gan gynnwys ‘Asesu SIY / EAL Assessment’ yn y llinell pwnc a bydd aelod o’r tîm yn ymateb i’ch ymholiad cyn pen pum niwrnod gwaith.

Adnoddau i’w lawrlwytho

Ar ochr dde’r dudalen hon mae nifer o ddogfennau y gallwch eu lawrlwytho am ddim.

Wrth argraffu’r ddogfen Fframwaith Asesu SIY – Disgrifyddion Cynradd, argraffwch dudalennau 4 i 7 mewn maint A3.

Licence information

Gwybodaeth am y drwydded

© The Bell Educational Trust Limited. Mae’r adnodd hwn ar gael i’w ddefnyddio am ddim at ddibenion addysgol.

Download resources

  • Fframwaith Asesu SIY – Disgrifyddion Cynradd

  • Strategaethau Ystafell Ddosbarth – Cynradd

  • Traciwr Asesu SIY 2.0 – Cynradd (cliciwch ‘Galluogi Golygu/Enable Editing’ ar ôl lawrlwytho)

  • Fframwaith Asesu SIY - Lawrlwythwch y Canllaw i Ddefnyddwyr

Back to all resources